Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ionawr 2017
Amser:
09.15 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3843
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Carl Sargeant AC Maureen Howell, Llywodraeth Cymru Alistair Davey, Llywodraeth Cymru John Davies, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Christopher Warner (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 370KB) Gweld fel HTML (206KB)
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
· Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cydraddoldeb a Ffyniant
· Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Galluogi Pobl
· John Davies, Uwch Rheolwr Cynhwysiant yr Is-adran Cydraddoldeb a Ffyniant
2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:
· Manylion cyswllt Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd mewn perthynas ag integreiddio a chydlyniant cymunedol a'r sesiwn adborth ddilynol a gynhaliwyd gyda'r Ysgrifennydd Cabinet;
· Gwybodaeth ynghylch canlyniadau'r pum rhaglen gyfathrebu sy'n cael eu cynnal gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, neu unrhyw sefydliadau perthnasol eraill sy'n cael cyllid ar gyfer eu rhaglenni gan Lywodraeth Cymru.
3.1.1. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan City of Sanctuary UK and Ireland a Chadeirydd Cyfiawnder Lloches ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
3.2.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at Clearsprings ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
3.3.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
3.4.1. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
3.5.1. Nododd y Pwyllgor adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin ar y rhaglen adsefydlu pobl o Syria sy’n agored i niwed.
3.6.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
6.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Wasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad ar y Bil Undebau Llafur (Cymru).